Croeso i Gyfryngau Buffoon

Cwmni cynhyrchu cyfryngau dwyieithog wedi’i leoli ym Mhort Talbot a Llundain. Yn cynhyrchu cynnwys a’i ffrydio’n fyw ledled y byd.

Darganfod mwy

2023 hyd yn hyn...

Ers 2011, rydym wedi bod yn creu a ffrydio cynnwys ar gyfer cleientiaid ledled y DU. Gan weithio allan o’n swyddfeydd ym Mhort Talbot a Llundain, rydyn ni’n dîm o bobl greadigol ac arbenigwyr cynhyrchu profiadol sy’n caru’r hyn rydyn ni’n ei wneud.

Mae gennym hefyd griw yng Nghaerdydd, Ynys Môn, Manceinion a Birmingham.

Rydym wedi gweithio gyda rhai o enwau mwyaf y DU gan gynnwys Unilever, Tata Steel, Nectar Card, Llywodraeth y DU a’r GIG. Gan ein bod yn gwmni balch wedi’i leoli yng Nghymru, mae gennym brofiad o gynhyrchu cynnwys Cymraeg ar gyfer y sectorau cyhoeddus a phreifat ac mae gennym staff dwyieithog a all eich tywys trwy’r broses gyfan ym mha bynnag iaith sydd orau gennych.

Ein Cleientiaid