Croeso i Gyfryngau Buffoon
Ers 2011, rydym wedi bod yn creu a ffrydio cynnwys ar gyfer cleientiaid ledled y DU. Gan weithio allan o’n swyddfeydd ym Mhort Talbot a Llundain, rydyn ni’n dîm o bobl greadigol ac arbenigwyr cynhyrchu profiadol sy’n caru’r hyn rydyn ni’n ei wneud.
Mae gennym hefyd griw yng Nghaerdydd, Ynys Môn, Manceinion a Birmingham.
Rydym wedi gweithio gyda rhai o enwau mwyaf y DU gan gynnwys Unilever, Tata Steel, Nectar Card, Llywodraeth y DU a’r GIG. Gan ein bod yn gwmni balch wedi’i leoli yng Nghymru, mae gennym brofiad o gynhyrchu cynnwys Cymraeg ar gyfer y sectorau cyhoeddus a phreifat ac mae gennym staff dwyieithog a all eich tywys trwy’r broses gyfan ym mha bynnag iaith sydd orau gennych.
Gwaith Cymunedol ac Elusennau
Bob blwyddyn rydym yn ymrwymo i roi dros £20,000 o’n hamser, ein hadnoddau a’n harian i elusennau a sefydliadau yn ein cymuned leol. Mae’r prosiectau’n cynnwys partneriaethau ag ysgolion lleol, noddi clybiau lleol a noddi ein clwb rygbu uwch-gynghrair lleol Clwb Rygbi Aberafan.

Profiad Gwaith
Yn anffodus, bu’n rhaid i ni ohirio lleoliadau profiad gwaith am y tro, hyd nes ceir rhybudd pellach.
Gweithio i ni
Yn anffodus, nid oes gennym unrhyw swyddi gwag ar hyn o bryd.