Mae dronau’n casáu glaw, a ninnau hefyd, gan na allant hedfan mewn tywydd gwlyb. Gall ein dronau hedfan yn ddiogel mewn gwyntoedd o hyd at 10m/e, ond mwy na hynny a bydd yn peryglu diogelwch yr hediad ynghyd â sefydlogrwydd y lluniau.

Byddwn yn cadw llygad ar ragolygon y tywydd cyn diwrnod yr hediad a byddwn yn cynnig aildrefnu’r dyddiad os nad yw’r tywydd yn edrych yn addas.

Gall y tywydd fod yn anrhagweladwy ac mae’n gallu newid yn gyflym iawn. Os yw’r Peilot Pell yn credu bod newid yn y tywydd yn ystod y diwrnod ffilmio yn peryglu diogelwch, bydd yn rhaid i ni ohirio. Mae gohiriadau oherwydd y tywydd yn rhad ac am ddim, ni fydd angen i chi dalu am y dyddiad ychwanegol ar yr amod nad oes unrhyw newid i’r briff.