Cynhyrchir y rhan fwyaf o’n fideos naill ai yn Gymraeg, Saesneg neu’r ddwy iaith gan ein bod yn gwmni dwyieithog balch a leolir yng Nghymru. Mae’n bwysig eich bod yn cynllunio ymlaen llaw os ydych chi’n meddwl y bydd angen i chi greu fersiynau mewn gwahanol ieithoedd gan ei bod yn llawer mwy cost-effeithiol penderfynu ar hyn cyn i’r ffilmio ddechrau. Yn ogystal â’r Gymraeg a’r Saesneg, gallwn hefyd gynhyrchu fideos mewn ieithoedd eraill.