Gellir cynllunio hediadau risg isel, syml o fewn diwrnod ond bydd rhai mwy cymhleth sy’n gofyn am ganiatâd tirfeddianwyr neu sydd â chyfyngiadau gofod awyr yn cymryd mwy o amser gan fod angen i ni aros am ganiatâd. Byddem yn argymell pythefnos o rybudd o leiaf ar gyfer y rhan fwyaf o hediadau. Fodd bynnag, rydym yn gallu hedfan heb fawr ddim rhybudd, ond byddai hyn yn amodol ar ein hargaeledd ar y pryd a faint o waith cynllunio sydd ei angen.