Gallai ystod eang o griw fod yn ymwneud â ffrwd fyw yn dibynnu ar ei maint a’i chyllideb. Gall y rolau gynnwys Cyfarwyddwyr, Gweithredwyr Camerâu, Detholwyr Lluniau, Peirianwyr Sain, Safonwyr Sgyrsiau, a gall y rhestr fynd ymlaen. Cynhyrchir y rhan fwyaf o’n ffrydiau byw o bell sy’n golygu mai dim ond yr aelodau criw sy’n ymwneud â chamerâu a sain sydd ar leoliad, mae pawb arall yn ein stiwdio ym Mhort Talbot. Y manteision o’i wneud fel hyn yw bod gosod offer yn cymryd llawer yn llai o amser ac mae llai o bobl ar y safle.