Mae cost cynhyrchu fideo yn dibynnu ar lawer o ffactorau, sy’n cynnwys:
- gofynion cynllunio megis ymweliadau safle, sgriptio, byrddau stori, ac os ydych yn chwilio am hysbyseb deledu, mae angen i ni hefyd ystyried y broses o gydymffurfio â ClearCast;
- gofynion ffilmio megis faint o amser y bydd yn ei gymryd, ble a faint o bobl sydd eu hangen; a
- gofynion golygu megis faint o fideos a pha mor gymhleth yw’r golygu, yn enwedig ar gyfer animeiddio.
Felly, fel y gwelwch, mae’n eithaf anodd rhoi prisiau sefydlog ar gyfer cynhyrchu fideo gan fod pob prosiect yn wahanol. Rydym yn gweithio ar brosiectau sydd ag ystod eang o gyllidebau felly beth bynnag yw eich gofynion fideo, rydym yn siŵr y byddwn yn gallu cynnig gwasanaeth i chi.