Gweithredwyr Drôn Profiadol
Gadewch inni ffilmio a thynnu lluniau syfrdanol o’r awyr gyda’n dronau o’r radd flaenaf a’n criw tra phrofiadol.
Rydym hefyd yn cynnig taliadau wedi’u rhannu dros dri mis i helpu i ledaenu’r gost, darganfod mwy yma.

Nodweddion
Fideo a Lluniau o Ansawdd Uchel Iawn.
Gallwn recordio hyd at 6K RAW a thynnu lluniau 24MP.
Cynllunio Trylwyr
Mae pob prosiect yn cael ei gynllunio'n ofalus, o ganiatâd gan dirfeddianwyr i gyfyngiadau gofod awyr a pheryglon tir. Rydyn ni’n gofalu am y cyfan!
Tawelwch Meddwl
Mae ein holl waith o’r awyr yn dod o dan Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus gwerth £10m.
Gweithrediadau Dydd a Nos.
We are able to fly day or night with any of our drones.
Wrth Galon y Gweithredu
Mae ein hystod eang o ddronau, a ddewiswyd yn ofalus, yn golygu y gallwn hedfan uwchlaw'r cyhoedd yn ddiogel ac mor agos â 30m yn llorweddol.
Ffrydiau Byw
Gall ein dronau o’r radd flaenaf ddarparu ffrydiau byw HD o'r awyr i’w chwarae ar sgriniau neu i ffrydiau byw.
Gwasanaethau O’r Awyr Eraill
- ffotograffiaeth
- arolygiadau ac arolygon;
- cymorth chwilio ac achub;
- delweddu thermol;
- yhoeddiadau sain gan drôn; a
- mapio.`

Ein Dronau

Inspire 2
Ein drôn blaenllaw. Yn gallu hedfan hyd at 58mya a recordio hyd at 6K RAW a chreu lluniau 24MP. Dyma’r drôn rydym yn ei ddefnyddio ar gyfer y rhan fwyaf o’n prosiectau.

Mavic 3 Cine
Mae hwn yn ddrôn gwych ar gyfer prosiectau sydd angen eu gosod yn gyflym, eu cyfuno â sesiwn ffilmio un aelod criw ar y ddaear, neu ffilmio dan do. Mae’r drôn hwn yn gallu ffilmio hyd at 5.1K ProRes a chreu lluniau 20MP – mae’n anhygoel am ei faint.

Mini 2
Ein drôn lleiaf sy’n pwyso ychydig o dan 250g. Mae pwysau’r drôn hwn yn ein galluogi i hedfan yn ddiogel dros aelodau anghyfrannog o’r cyhoedd a ffilmio hyd at 4K a chreu lluniau 12MP.
Y Broses

Cyn-gynhyrchu
Mae pob prosiect o’r awyr yn dechrau yma. Dyma lle rydym yn nodi’r hyn sydd ei angen arnoch ac yna cynllunio’r ffordd orau a mwyaf diogel o’i gyflawni. O asesiadau risg manwl i gysylltu â thirfeddianwyr, rydym yn gwneud y cyfan. 24 awr cyn hedfan, byddwn yn cynnal gwiriadau ychwanegol gan gynnwys y tywydd i sicrhau ei bod yn dal i edrych yn ddiogel i hedfan.

Cynhyrchu
Dyma pryd y byddwn yn cyrraedd y safle. Gall gosod offer gymryd ychydig funudau neu hyd at 15 munud, yn dibynnu ar y drôn a chymhlethdod y saethu a’r lleoliad. Rydym yn cynnal asesiad safle terfynol ac unwaith y byddwn yn hapus y gallwn barhau’n ddiogel, gall y drôn ddechrau hedfan a chreu ei swyn.

Ôl-gynhyrchu
Unwaith y bydd y drôn wedi glanio’n ddiogel, bydd yr holl ffilm a/neu luniau yn cael eu copïo yn barod ar gyfer ôl-gynhyrchu.
Cwestiynau Cyffredin
Beth sydd angen i chi ei gynllunio cyn hedfan?
Allwch chi hedfan yn y glaw neu pan fydd hi'n wyntog?
Ydych chi wedi'ch yswirio?
Beth yw Gweithredwr Gimbal?
Pa mor uchel allwch chi fynd a pha mor bell i ffwrdd?
Am faint o amser gall eich dronau hedfan?
Allwch chi hedfan dan do?
Ein Cleientiaid












