Crewch podlediad eich hun

Mae podlediaid yn dod yn fwy poblogaidd gyda’r cynnydd mewn cynnwys ar alw. Mae un o bob deg oedolyn yn gwrando ar bodlediaid bob wythnos yn y DU ac mae hyd yn oed yn fwy poblogaidd gyda phobl 25-34 oed lle mae’r ffigur yn un o bob pump.

Mae brandiau mawr fel Microsoft a Starbucks yn creu podlediaid eu hunain, felly pam na allwch chi? Gallwch greu podlediad ar unrhyw bwnc fwy neu lai, a bydd gwrandawyr yn gallu chwilio a gwrando wrth fynd am dro, ar y bws neu wrth ymlacio gartref.

Rydym hefyd yn cynnig taliadau wedi’u rhannu dros blwyddyn i helpu i ledaenu’r gost, darganfod mwy yma.

Podcasts

Mae gennym ddau opsiwn ar gyfer cynhyrchu podlediaid:

  • os oes digon o le ar gyfer ymbellhau cymdeithasol, gallwn ddod â’n stiwdio cynhyrchu podlediaid sain symudol atoch chi a recordio ar y safle; neu
  • os nad yw’n bosibl dod â phawb at ei gilydd, gallwn recordio pawb o bell a gallwn hyd yn oed gynhyrchu fideo o’r podlediad hefyd.

Os ydych yn dechnolegol ddeallus, mae ein hoffer podledu ar gael i’w logi a gallwn eich hyfforddi ar sut i’w ddefnyddio ar gyfer y podlediad cyntaf.

 

 

Podcasts

Mobile Audio Podcast Studio Features

1 Host + 3 Guests

Pedwar microffon o ansawdd uchel

Phone Ins

Cysylltu ffôn ar gyfer gwesteion ychwanegol

Podcast Branding

Gallwn eich helpu gydag ‘intros’, ‘outros’, ‘stings’ a cherddoriaeth pwrpasol.

Go Live

Darlledwch eich podlediad yn fyw drwy lwyfannau ffrydio

Submission to Podcast Platforms

Gallwn letya eich podlediaid ar Apple Podcasts, Spotify, Google Podcasts a mwy

Video Podcast

P’un a ydych yn ei recordio o bell neu’n gorfforol, gallwn greu podlediad fideo o’ch recordiad.

Ein Cleientiaid