Ffilmio Digwyddiadau
Os ydych chi'n trefnu digwyddiad, gadewch i ni ei ffilmio! P'un a ydych chi'n chwilio am ddwy funud o uchafbwyntiau neu sesiynau gynadledda gyda llun o fewn llun, cysylltwch â ni. Rydym hefyd yn cynnig golygu ar yr un diwrnod neu erbyn y diwrnod nesaf.
Y mathau o ddigwyddiadau rydyn ni’n gallu ffilmio:
- Cyngherddau;
- Cynadleddau;
- Perfformiadau theatr;
- Digwyddiadau preswyl;
- Digwyddiadau lansio a dathlu;
- Seremonïau gwobrwyo;
- Lansio cynnyrch/gwasanaeth;
- Diwrnodau staff;
- Chwaraeon;
- a mwy!
Mae ein pecynnau ffilmio digwyddiad yn cynnwys:
- cyfarfod cychwynnol neu alwad ffôn i gynllunio eich digwyddiad;
- ffilmio gyda gweithredwr aml-sgil profiadol gyda chit camera, sain a goleuo o safon uchel;
- golygu gan un o'n golygyddion profiadol;
- tri rownd o newidiadau; a
- ffeil digidol.
Dewis poblogaidd ar gyfer cynadleddau yw ein golygiad 'llun o fewn llun' fel yr isod. Gallwch gael y sleidiau, siaradwr a chefndir wedi'i brandio ar gyfer pob sesiwn.
Ydych chi wedi ffilmio digwyddiad eich hun a dim ond angen ei olygu? Dim problem, gall ein golygwyr profiadol weithio gyda'ch deunydd ffilm!
Os oes gennych ddiddordeb mewn gweithio gyda Buffoon, llenwch y ffurflen isod a bydd un o'r tîm mewn cysylltiad mor gynted ag sy'n bosib.
Ein Cleientiaid