Fideos Hyrwyddol
Mae fideo hyrwyddol yn ffordd arbennig i ddangos cynnyrch neu wasanaeth a gellir ei ddefnyddio ar-lein neu oddi ar-lein. Rydym wrth ein boddau yn treulio amser gyda'n cleientiaid yn cynllunio eu fideo hyrwyddol, ffilmio ac yna'n gweithio ein hud yn y 'stafell golygu i roi'r cyfan at ei gilydd.
Mae ein gwasanaeth cynhyrch fideo hyrwyddol yn cynnwys:
- cyfarfod cychwynnol neu alwad ffôn i gynllunio eich fideo;
- ffilmio gyda gweithredwr aml-sgil profiadol gyda chit camera, sain a goleuo o safon uchel;
- golygu gan un o'n golygyddion profiadol; a
- tri rownd o newidiadau.
Rydym hefyd yn cynnig fideos animeiddiedig gan ddefnyddio ein tîm o animeiddwyr profiadol sy'n gallu gweithio gyda chi i gynhyrchu fideo effeithiol
Os oes gennych ddiddordeb mewn gweithio gyda Buffoon, llenwch y ffurflen isod a bydd un o'r tîm mewn cysylltiad mor gynted ag sy'n bosib.
Ein Cleientiaid